{"id":154,"date":"2024-11-07T16:23:44","date_gmt":"2024-11-07T16:23:44","guid":{"rendered":"https:\/\/adeiladu.cymru\/?p=154"},"modified":"2024-11-07T16:35:23","modified_gmt":"2024-11-07T16:35:23","slug":"thoughts-on-passivhaus-conversions-plus-passivhaus-open-days-this-weekend","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/thoughts-on-passivhaus-conversions-plus-passivhaus-open-days-this-weekend\/","title":{"rendered":"Meddyliau am drosiadau passivhaus a Diwrnodau Agored Passivhaus (y penwythnos yma!)"},"content":{"rendered":"<p class=\"\">Mynychais gynhadledd passivhaus y DU yn Oxford yn ddiweddar. Roedd un o\u2019r cyflwyniadau yn ymwneud \u00e2 Hen Eglwys Warksburn, \u00f4l-osod passivhaus o eglwys yn Northumberland sydd bellach yn gweithredu fel cartref gwyliau. Mae\u2019r datblygiad wedi cael sylw ar y teledu ac, yn ddiweddar iawn, yn y wasg genedlaethol. Y gynhadledd oedd y tro cyntaf i mi ddysgu am y datblygiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"\">Mae\u2019r gwaith wedi bod yn drawiadol, gan gadw\u2019r ffenestri lliw gwreiddiol (fe osodon nhw ffenestri passivhaus y tu fewn i\u2019r ffenestri i gyrraedd y safon passivhaus!), a nodweddion pensaern\u00efol eraill yr adeilad, tra\u2019n dal i gyrraedd y safon passivhaus. Mae'r canlyniadau'n anhygoel: cynnyrch terfynol hardd yn ogystal ag ynni-effeithlon.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"\">Yn \u00f4l darn gan y Sunday Times ar yr eiddo, un cymhelliad i\u2019r prosiect oedd rhoi profiad \u201ctry before you buy\u201d o passivhaus i bobl. Rwy\u2019n meddwl bod hwn yn gyfle gwych i bobl: pan oeddem yn ystyried adeiladu ein passivhaus ein hunain am y tro cyntaf fe wnaethom aros mewn gwely a brecwast passivhaus yn Totnes i \u201croi cynnig arni.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"\">Roedd fy hoff ran o\u2019r stori hon yn ymwneud \u00e2 darn o hanes yr eglwys. Ariannwyd yr eglwys yn wreiddiol gan Syr George Barclay Bruce, peiriannydd sifil yn y 19eg Ganrif. Yn \u00f4l Sefydliad y Peirianwyr Sifil, mae araith a roddodd fel Llywydd y Sefydliad yn cynnwys y cyfeiriad cofnodedig cyntaf yn y byd at \u201cynni adnewyddadwy a storio p\u0175er\u201d:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"\"><em>&#8220;When we shall have learnt the way of storing up in a more efficient and financially successful manner, the unemployed forces of nature such as the winds and streams and tides, which can be so readily converted into electrical energy at trifling cost, then will it become a factor in the world\u2019s life compared with which the present is as nothing&#8221;\u00a0<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"\">Mae\u2019n wych meddwl am yr eglwys fel ei hun yn darparu enghraifft o\u2019r math hwn o ddefnydd effeithlon o ynni adnewyddadwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"\">Roedd hwn yn amlwg yn brosiect cyffrous a llawn dychymyg. Wrth adael y cyflwyniad, cefais fy hun yn pendroni am fy ardal leol fy hun yng Ngogledd Cymru a'r capeli ac eglwysi niferus sy'n mynd yn brin o ddefnydd. Mae rhai o'r rhain yn troi'n gartrefi gwyliau. Ond a allai\u2019r adeiladau hyn ddod yn gartrefi cynaliadwy i bobl leol a sut y gellid cyflwyno\u2019r datblygiad hwnnw mewn ffordd gost-effeithiol? Cwestiynau y byddaf yn eu hystyried. . .&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"\">Os bydd unrhyw un yn digwydd bod yn Northumberland y penwythnos hwn gallwch weld yr hen eglwys drosoch eich hun gan ei bod yn un o\u2019r eiddo sy\u2019n cymryd rhan yn Niwrnod Agored Passivhaus eleni:&nbsp;<a href=\"https:\/\/passivhaustrust.org.uk\/event_detail.php?eId=1365\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/passivhaustrust.org.uk\/event_detail.php?eId=1365<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>I recently attended the UK passivhaus conference in Oxford. One of the presentations was about Warksburn Old Church, a passivhaus retrofit of a church in Northumberland which now operates as a holiday&nbsp;home. The development&nbsp;has been covered on TV and, very recently, in the national press. The conference was my first time learning about the development. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":157,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"nf_dc_page":"","footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-154","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/154","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=154"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/154\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":155,"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/154\/revisions\/155"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/157"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=154"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=154"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/adeiladu.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=154"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}